|
Sefydlwyd Cymdeithas Gwenynen Gwent yn Ty Uchaf, Llanofer, ddydd Llun yr 17eg o Fawrth 2003. Prif nôd y Gymdeithas yw cloriannu bywyd a gwaith Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, noddwraig a chynhalwraig iaith a diwylliant Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fe fydd aelodau’n derbyn Cylchlythyr y Gymdeithas, a mynediad di-dâl i’w digwyddiadau. Aiff cyfran o’r tâl aelodaeth tuag at noddi a chynnal gweithgaredd diwylliannol. Llawrlwythwch gopi o’n cylchlythyr diweddaraf o’r dudalen Aelodaeth
|
Augusta Hall |
||
| Mae Cymdeithas Gwenynen Gwent yn elusen gofrestredig, rhif 1107244 | |||
![]() |
|||